P-05-960 Dylid talu costau angladdau pob un o staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ProfsJane Henderson & Karin Wahl-Jorgensen, ar ôl casglu cyfanswm o 414 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rhoesant eu bywydau i achub ein bywydau ni.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau angladdau holl staff y GIG sy’n marw o Covid-19 neu gyda’r feirws
Mae angladd syml yn costio £4,000 ar gyfartaledd.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn cael mynediad at arian ar unwaith i dalu costau angladdau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffynhonnell cost yr angladd https://www.moneyadviceservice.org.uk/en/articles/help-paying-for-a-funeral
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Gorllewin Caerdydd
· Canol De Cymru